Beth y dylech edrych amdano wrth chwilio am dŷ rhent preifat




Mae'r adran hon yn cynnwys awgrymiadau defnyddiol ar yr hyn y dylech edrych amdano wrth chwilio am gartref sydd ar gael i'w rentu.



  • Ni ddylai fod unrhyw leithder fel darnau gwlyb ar waliau, a geir yn agos at waelod waliau allanol fel arfer . Mae malltod du fel arfer yn arwydd o systemau gwresogi, awyru neu inswleiddio gwael ac fe'i gwelir mewn ceginau, ystafelloedd ymolchi ac o bryd i'w gilydd mewn ystafelloedd gwely.
  • Gwnewch yn siŵr fod gan yr eiddo system wresogi dda fel gwres canolog neu stôr-wresogydd sy'n hawdd eu rheoli ac, yn ddelfrydol, sy'n cael eu rheoli â thermostat.
  • Gwnewch yn siŵr fod gan yr eiddo gegin sydd wedi'i ffitio'n dda ac sydd â digon o le i storio, coginio a pharatoi bwyd.
  • Gwnewch yn siŵr fod yr eiddo yn lân y tu mewn a'r tu allan, a bod yr holl addurniadau mewn cyflwr da.
  • Gwnewch yn siŵr fod yr holl ffenestri a drysau yn agor ac yn cau'n iawn a bod yr holl gloeon yn gweithio.
  • A yw'r to mewn cyflwr da? Gallwch wneud hyn drwy edrych am arwyddion o ddifrod dŵr i'r nenfwd.
  • A yw'r boeler yn gweithio? Gofynnwch i'r landlord neu'r asiant droi'r boeler ymlaen a rhedeg y dŵr poeth i wneud yn siŵr ei fod yn gweithio. Os yw'r dŵr poeth yn dod o danc a bod y boeler wedi cael ei ddiffodd am gryn amser bydd angen i chi aros am ysbaid cyn gweld a yw'n gwresoginr dŵr.
  • Os oes tân nwy neu drydan yn yr eiddo gofynnwch iddo gael ei droi ymlaen i weld a yw'n gweithio ac yna gofynnwch am weld y dystysgrif diogelwch.
  • Os yw'r eiddo'n cynnwys dodrefn, a yw'n lân ac mewn cyflwr da ac yn bodloni safonau tân?
  • Gwnewch yn siŵr fod y socedi trydan a'r switshis golau i gyd yno, mewn un darn ac yn gweithio. Os oes tân trydan yn yr eiddo gofynnwch iddo gael ei droi ymlaen i wneud yn siŵr ei fod yn gweithio.
  • Gwnewch yn siŵr fod synwyryddion mwg yn yr eiddo a'u bod yn gweithio.
  • Gwnewch yn siŵr fod y lleoliad yn addas i chi. Er enghraifft, os oes gennych blant gwnewch yn siŵr fod ysgol gerllaw a sicrhewch fod trafnidiaeth gyhoeddus a siopau ar gael ac ati.


Gallwch argraffu canllaw defnyddiol ar bethau i'w hystyried wrth edrych am gartref yn y sector rhent preifat drwy glicio ar y ddolen hon.


Os oes unrhyw broblemau cofiwch nad oes yn rhaid i chi gymryd y cartref - ewch i weld un arall - mae digon o ddewis.