Mae'r cynllun yn darparu ar gyfer anghenion tenantiaid 60 oed a hŷn.
Dylai tenantiaid allu byw yn annibynnol yn eu fflatiau eu hunain, er y gallant drefnu eu help ychwanegol eu hunain (er enghraifft glanhau neu ofal personol).
Mae Minton Court yn Nhremorfa wedi'i ailwampio yn sylweddol yn ddiweddar ac yn cynnig 30 fflat hunan gynhwysol, gan gynnwys pum fflat dwy ystafell wely a 25 fflat un ystafell wely. Mae'r lolfa gymunedol yn olau ac yn groesawgar ac mae'r ystafell wely en-suite i westai yn galluogi ffrindiau neu aelodau o'r teulu i aros dros nos. Gall y preswylwyr fwynhau gerddi a eisteddfannau awyr agored y cynllun ac ymuno yn hwyl y digwyddiadau cymdeithasol rheolaidd os ydynt yn dewis gwneud hynny.
Mae Rheolwr y Cynllun ar gael yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener i roi cymorth a chyngor ar faterion o ddydd i ddydd ac i helpu mewn argyfwng. Mae gan bob fflat larwm hefyd sy'n gysylltiedig â Gwasanaeth Larwm Cymunedol Caerdydd sy'n cynnig cymorth a sicrwydd 24 awr y dydd.
Mae'r cynllun yn darparu ar gyfer anghenion tenantiaid 60 oed a hŷn.
Dylai tenantiaid allu byw yn annibynnol yn eu fflatiau eu hunain, er y gallant drefnu eu help ychwanegol eu hunain (er enghraifft glanhau neu ofal personol).
Gwnaed nifer o addasiadau ym Minton Court i hwyluso mynediad i bob tenant. Mae'r rhain yn cynnwys:
• Mynedfa wastad/ramp i'r cynllun
• Mynedfeydd gwastad/â ramp o fewn y cynllun
• Drysau mynediad awtomatig
• Lifft i'r lloriau uchaf
• Ardaloedd cymunedol sy'n hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn
• Storfa a chyfleuster trydanu sgwteri symudedd
• Gardd hygyrch
• Canllawiau
Mae gan bob fflat ym Minton Court ei chegin a'i hystafell ymolchi ei hun. Mae'r cyfleuster ychwanegol yn cynnwys:
• Lolfa a chegin gymunol
• Cyfleusterau golchi dillad
• Ystafell sgwteri - ar gyfer trydanu sgwteri symudol
• Gardd gymunol
• Mannau parcio ar y safle
• Swyddfa staff
Ymhlith yr amwynderau sydd ar gael o fewn tua hanner milltir i'r cynllun mae:
• Siop leol
• Safle bws gyferbyn (o fewn 100 llath) sy'n gweithredu gwasanaeth bob awr o ddydd Llun i ddydd Gwener o Minton Court ac yn ôl.
• Meddygfa
• Addoldai
• Llyfrgell
• Swyddfa'r post
• Triniwr gwallt
Mae nifer o weithgareddau cymdeithasol ar gael i denantiaid gymryd rhan ynddynt os ydynt yn dymuno. Mae rhai o'r gweithgareddau ar gael i'r gymuned leol hefyd, gan gynnwys:
• Boreau coffi
• Bingo
• Teithiau
• Teithiau siopa
• Clwb cinio
Yn dibynnu ar eich incwm mae'n bosibl y gallwch hawlio Budd-dal Tai i helpu i dalu'r rhent a rhai rhannau o'r tâl gwasanaeth. I gael rhagor o wybodaeth am rent a thaliadau gwasanaeth ffoniwch y Tîm Ymholiadau Tai ar 029 2053 7111.
Mae Rheolwr Cynllun ar gael yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener i ymdrin ag unrhyw broblemau neu ymholiadau.
Mae gan bob fflat ym Minton Court larwm sydd wedi'i gysylltu â Gwasanaeth Larwm Cymunedol Caerdydd. Gall tenantiaid ddefnyddio'r larwm i alw am help unrhyw bryd (ddydd a nos). Bydd Warden symudol yn ymweld os y bydd angen.
Os oes diddordeb gennych mewn bod yn denant ym Minton Court bydd angen i chi lenwi Ffurflen Gais Tai Caerdydd. Cysylltwch â'r Tîm Ymholiadau Tai ar 029 2053 7111 i ofyn am ffurflen, ac i ofyn am help i lenwi'r ffurflen os oes angen.