Llety Pobl Hŷn - Tŷ Poplar, Yr Eglwys Newydd

Mae Tŷ Poplar yn Yr Eglwys Newydd yn gyfadeilad bach o 16 o fflatiau hunan gynwysedig sy'n cynnwys 12 fflat un ystafell wely a 4 fflat dwy ystafell wely.

Mae Tŷ Poplar yn agos i bentref Yr Eglwys Newydd sy'n cynnwys siopau amrywiol ac amwynderau eraill. Gall preswylwyr fanteisio ar yr hyn sydd ar gael yn lleol (fel bwyty cerfdy ar ochr arall y ffordd) yn ogystal â chymryd rhan mewn digwyddiadau a gweithgareddau ar y safle os ydynt yn dymuno gwneud hynny. Mae naws gartrefol i'r lolfa gymunol a gall y preswylwyr fwynhau gerddi'r cynllun gyda'u gwelyau blodau dyrchafedig. Mae rhai preswylwyr hyd yn oed yn tyfu eu llysiau eu hunain.


 

Meini Prawf y Cynllun

Mae'r cynllun yn darparu ar gyfer anghenion pobl sy'n 60 oed neu'n hŷn. Dylai ymgeiswyr allu byw yn annibynnol yn eu fflatiau eu hunain, er y gallant drefnu eu help ychwanegol eu hunain (er enghraifft glanhau neu ofal personol).

Poplar House

Hygyrchedd y Cynllun

Gwnaed nifer o addasiadau yn Nhŷ Poplar i hwyluso mynediad i bob tenant, gan cynnwys:

• Mynedfa wastad/ramp i'r cynllun
• Lifft i'r lloriau uchaf
• Ardaloedd cymunedol sy'n hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn
• Gardd hygyrch
• Canllawiau

Y cyfleusterau a'r amwynderau sydd ar gael

Mae gan bob fflat yn Nhŷ Poplar ei chegin a'i hystafell ymolchi ei hun. Ymhlith y cyfleusterau eraill mae:

• Lolfa gymunedol
• Cegin gymunedol
• Golchdy cymunedol
• Gardd
• Swyddfa staff

Amwynderau Lleol

Ymhlith yr amwynderau sydd ar gael o fewn tua hanner milltir i Dŷ Poplar mae:
• Aral Siopa leol (Tesco express, Boots, Iceland, Co-op a siop cigydd)
• Safle bws (ar waelod y ffordd)
• Addoldai
• Gorsaf Drenau
• Llyfrgell
• Banc/cymdeithas adeiladu
• Swyddfa'r Post

Gweithgareddau Cymdeithasol

Trefnir gweithgareddau cymdeithasol i denantiaid gymryd rhan ynddynt os ydynt yn dymuno. Mae rhai o'r gweithgareddau ar gael i'r gymuned leol hefyd.

• Bore coffi bob wythnos
• Dosbarth ymarfer corff bob wythnos
• Teithiau i dafarn/bwyty lleol i gael cinio
• Teithiau i ganolfannau siopa
• Cinio cymunedol misol
• Gweithgareddau codi arian (e.e. gwau cywion Pasg, blwch anifeiliaid anwes ar gyfer PDSA, potel newid mân er lles elusen o'u dewis)
• Diwrnodau arbennig achlysurol (e.e. parti yn yr ardd, diwrnod gosod addurniadau'r Nadolig)

Rhent

Yn dibynnu ar eich incwm mae'n bosibl y gallwch hawlio Budd-dal Tai i helpu i dalu'r rhent a rhai rhannau o'r tâl gwasanaeth. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r t�m Ymholiadau Tai ar 029 2053 7111.

Rheolwr y Cynllun

Mae Rheolwr y Cynllun ar gael yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener i gynnig cyngor a chymorth cyfeillgar o ran materion o ddydd i ddydd ac i helpu mewn argyfwng.

Gyda phwy y dylid cysylltu os nad yw Rheolwr y Cynllun ar gael?

Mae gan bob fflat yn Nhŷ Poplar larwm sydd wedi'i gysylltu â Gwasanaeth Larwm Cymunedol Caerdydd. Gall tenantiaid ddefnyddio'r larwm i alw am help unrhyw bryd (ddydd a nos). Bydd Warden symudol yn ymweld os y bydd angen.

Manylion Cyswllt

Os oes diddordeb gennych mewn bod yn denant yn Nhŷ Poplar bydd angen i chi lenwi Ffurflen Gais Tai Caerdydd. Cysylltwch â'r Tîm Ymholiadau Tai ar 029 2053 7111 i ofyn am ffurflen, ac i ofyn am help i lenwi'r ffurflen os oes angen.