Mae'r cynllun yn darparu ar gyfer anghenion tenantiaid 60 oed a hŷn.
Dylai ymgeiswyr allu byw yn annibynnol yn eu fflatiau eu hunain, er y gallant drefnu eu help ychwanegol eu hunain (er enghraifft glanhau neu ofal personol).
Mae'r cynllun yn darparu ar gyfer anghenion tenantiaid 60 oed a hŷn.
Dylai ymgeiswyr allu byw yn annibynnol yn eu fflatiau eu hunain, er y gallant drefnu eu help ychwanegol eu hunain (er enghraifft glanhau neu ofal personol).
Mae Rheolwr y Cynllun ar gael yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener i roi cyngor ar faterion o ddydd i ddydd ac i helpu mewn argyfwng. Mae gan bob fflat yn Sandown Court larwm hefyd sydd wedi'i gysylltu â Gwasanaeth Larwm Cymunedol Caerdydd. Gall tenantiaid ddefnyddio'r larwm i alw am help unrhyw bryd (ddydd a nos). Bydd Warden symudol yn ymweld os y bydd angen.
Gwnaed nifer o addasiadau yn Sandown Court i hwyluso mynediad i bob tenant, gan gynnwys:
• Mynedfa wastad/ramp i'r cynllun
• Mynedfeydd gwastad/rampiau y tu mewn i'r cynllun
• Lifft i'r lloriau uchaf
• Ardaloedd cymunedol sy'n hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn
• Gardd hygyrch
• Canllawiau
• Canllawiau yn y coridorau
Mae gan bob fflat yn Sandown Court ei gegin a'i ystafell ymolchi ei hun. Ymhlith y cyfleusterau eraill mae:
• Lolfa gymunedol
• Cegin gymunedol
• Golchdy cymunedol
• Llety i westeion
• Gardd
• Swyddfa staff
Trefnir gweithgareddau cymdeithasol i denantiaid gymryd rhan ynddynt os ydynt yn dymuno. Mae rhai o'r gweithgareddau ar gael i'r gymuned leol hefyd.
• Bingo
• Boreau coffi
• Tripiau dydd
• Rafflau
• Nosweithiau adloniant
• Garddio
Ymhlith yr amwynderau sydd ar gael o fewn tua hanner milltir i'r cynllun mae:
• Siopau Lleol (Aldi a Farm Foods o fewn pellter cerdded)
• Safle bws (gerllaw)
• Meddygfa
• Deintyddfa
• Addoldai
• Llyfrgell symudol (sy’n ymweld bob wythnos)
• Swyddfa'r Post
• Triniwr gwallt (mae triniwr gwallt symudol yn ymweld â Sandown Court bob wythnos hefyd)
• Swyddfa dai
• Canolfan ddydd
Yn dibynnu ar eich incwm mae'n bosibl y gallwch hawlio Budd-dal Tai i helpu i dalu'r rhent a rhai rhannau o'r tâl gwasanaeth. I gael rhagor o wybodaeth am rent a thaliadau gwasanaeth ffoniwch y Tîm Ymholiadau Tai ar 029 2053 7111.
Os oes diddordeb gennych mewn bod yn denant yn Sandown Court bydd angen i chi lenwi Ffurflen Gais Tai Caerdydd. Ffoniwch 029 2053 7111 i ofyn am ffurflen, ac i ofyn am help i lenwi'r ffurflen os oes angen.
There are no images in this Gallery.