Llety Pobl Hŵn - Clos y Nant, y Tyllgoed

Mae Clos y Nant yn ardal y Tyllgoed, Caerdydd gyda golygfeydd dros Barc y Tyllgoed. Mae gan y cynllun 36 eiddo gan gynnwys stiwdios, fflatiau un ystafell wely ac eiddo sy’n addas i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn. Mae gan yr ardd gefn ddau batio, ac mae croeso i breswylwyr blannu eu gerddi eu hunain a gofalu amdanynt.

Mae Rheolwr y Cynllun ar gael yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener i roi cyngor ar faterion o ddydd i ddydd ac i helpu mewn argyfwng. Mae gan bob fflat larwm hefyd sydd wedi'i gysylltu â Gwasanaeth Larwm Cymunedol Caerdydd sy'n cynnig cymorth a sicrwydd 24 awr y dydd


 

Sut i wneud cais

Yng Nghlos y Nant mae popeth sydd ei angen arnoch wrth law gydag amrywiaeth o siopau o fewn pellter cerdded, meddygfa ar draws y ffordd, a Chanolfan Ddydd drws nesaf lle gall y preswylwyr fwynhau cinio a sgwrsio. Mae gwasanaethau bws a thrên rheolaidd yn stopio gerllaw, ac i wneud bywyd yn haws mae nifer o wasanaethau symudol yn ymweld â'r cynllun, gan gynnwys pobl trin gwallt a llyfrgell. Trefnir digwyddiadau cymdeithasol rheolaidd yn y lolfa gymunedol gyfforddus, ac mae croeso i ffrindiau neu aelodau o'r teulu aros dros nos yn yr ystafell i westeion sydd â gwely dwbl.

Clos Y Nant

Meini Prawf y Cynllun

Mae'r cynllun yn darparu ar gyfer anghenion tenantiaid 60 oed a hŷn.

Dylai tenantiaid allu byw yn annibynnol yn eu fflatiau eu hunain, er y gallant drefnu eu help ychwanegol eu hunain (er enghraifft glanhau neu ofal personol) os oes angen.

Hygyrchedd y Cynllun

Er mwyn hwyluso mynediad i bob tenant, mae gan Glos y Nant y canlynol:
• Mynedfa wastad/ramp
• Lifft i'r lloriau uchaf
• Gardd hygyrch
• Canllawiau
• Ardaloedd cymunedol sy'n hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn

Y cyfleusterau a'r amwynderau sydd ar gael

Mae nifer o gyfleusterau ar gael yng Nghlos y Nant, gan gynnwys:
• Lolfa gymunedol
• Cegin gymunedol
• Cyfleusterau i westeion
• Golchdy cymunedol
• Gardd gymunedol
• Swyddfa staff

Beth sydd ar gael yn lleol?

Ymhlith yr amwynderau sydd ar gael o fewn tua hanner milltir i'r cynllun mae:
• Ardal siopa leol
• Safle bws yn union y tu fas
• Meddygfa
• Deintyddfa
• Llyfrgell
• Addoldai
• Canolfan iechyd
• Optegydd
• Canolfan Ddydd
• Triniwr Gwallt (sy'n ymweld bob wythnos)
• Swyddfa'r post

Gweithgareddau Cymdeithasol

Mae nifer o weithgareddau cymdeithasol ar gael i denantiaid gymryd rhan ynddynt os ydynt yn dymuno. Mae rhai o'r gweithgareddau ar gael i'r gymuned leol hefyd.

• Clwb brecwast (wythnosol)
• Dosbarth Ymarfer Corff (wythnosol)
• Sesiynau Bingo (ddwywaith yr wythnos)
• Cinio Dau Gwrs (misol)
• Teithiau (misol)
• Adloniant rheolaidd

Rhent

Yn dibynnu ar eich incwm mae'n bosibl y gallwch hawlio Budd-dal Tai i helpu i dalu'r rhent a rhai rhannau o'r tâl gwasanaeth. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r t�m Ymholiadau Tai ar 029 2053 7111.

Rheolwr y Cynllun

Mae Rheolwr Cynllun ar gael yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener i ymdrin ag unrhyw broblemau neu ymholiadau.

Gyda phwy y dylid cysylltu os nad yw Rheolwr y Cynllun ar gael?

Mae gan bob fflat yng Nghlos y Nant larymau sy'n gysylltiedig â Gwasanaeth Larwm Cymunedol Caerdydd. Gellir defnyddio'r gwasanaeth hwn i alw am help mewn argyfwng (24 awr y dydd). Bydd Warden Symudol yn galw i weld y tenant os oes angen.

Manylion Cyswllt

Os oes diddordeb gennych mewn bod yn denant yng Nghlos y Nant bydd angen i chi lenwi Ffurflen Gais Tai Caerdydd. Cysylltwch â'r Tîm Ymholiadau Tai ar: 029 2053 7111 i ofyn am ffurflen, ac i ofyn am help i lenwi'r ffurflen os oes angen.