Mae Cyngor Caerdydd yn cadw Rhestr Aros ar wahân ar gyfer y safleoedd i Sipsiwn a Theithwyr yn ogystal â'i Restr Aros Gyffredin ar gyfer tai prif ffrwd. Gall unrhyw 16 oed a hŷn wneud cais i ymuno â'r Rhestr.
Rhoddir pwyntiau i ymgeiswyr yn unol â'u hamgylchiadau, a chynigir y lleiniau sydd ar gael i'r ymgeisydd ar frig y rhestr aros. Mae'r polisi Dyrannu Lleiniau Sipsiwn a Theithwyr yn cael ei adolygu ar hyn o bryd, ond mae ceisiadau'n cael eu derbyn o hyd. Wrth ystyried eich opsiynau tai, dylech fod yn ymwybodol bod llawer o alw am leiniau ac mae'r amseroedd aros yn hir iawn. Y llynedd nid oedd unrhyw leiniau ar gael ar y naill safle na'r llall, ond mae dros 30 o ymgeiswyr ar y Rhestr Aros ar hyn o bryd.
Gan hynny mae'n bosibl y dylech ystyried opsiynau eraill megis chwilio am dŷ neu fflat yn y sector rhent preifat sydd ar gael yn hawdd yn y rhan fwyaf o ardaloedd y ddinas, neu ymuno â'r Rhestr Aros Gyffredin ar gyfer tai'r Cyngor neu Gymdeithas Tai (er y gall yr amseroedd aros fod yn hir hefyd). Gallwch aros ar y Rhestr Aros ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr hefyd - ni fydd byw mewn tai prif ffrwd yn effeithio ar eich safle ar y rhestr honno.