Llety Pobl Hŷn - Wheatley Road, Trelái

Mae Wheatley Road yn Nhrelái, Caerdydd yn cynnwys 36 fflat un ystafell wely hunan gynwysedig mewn 4 bloc ar wahân.

Mae gan y cynllun gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus da sy'n galluogi preswylwyr i ddefnyddio'r siopau yng Nghroes Cwrlwys ac ymhellach i ffwrdd. Yn ogystal ceir siopau llai yn lleol a chyfleusterau eraill o fewn pellter cerdded.

Mae gweithgareddau cymdeithasol y cynllun yn cynnwys clwb te/coffi lle mae'r preswylwyr yn cwrdd i sgwrsio a chael byrbrydau, teithiau siopa rheolaidd, teithiau ymweld a phrydau bwyd allan.


 

Meini Prawf y Cynllun

Mae'r cynllun yn darparu ar gyfer anghenion tenantiaid 60 oed a hŷn.

Dylai tenantiaid allu byw yn annibynnol yn eu fflatiau eu hunain, er y gallant drefnu eu help ychwanegol eu hunain (er enghraifft glanhau neu ofal personol).

Rheolwr y Cynllun

Mae Rheolwr y Cynllun ar gael yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener i gynnig cyngor a chymorth cyfeillgar o ran materion o ddydd i ddydd ac i helpu mewn argyfwng.

Gyda phwy y dylid cysylltu os nad yw Rheolwr y Cynllun ar gael?

Mae gan bob fflat yn Wheatley Road larwm sydd wedi'i gysylltu â Gwasanaeth Larwm Cymunedol Caerdydd. Gall tenantiaid ddefnyddio'r larwm i alw am help unrhyw bryd (ddydd a nos). Bydd Warden symudol yn ymweld os y bydd angen.

Hygyrchedd y Cynllun

Gwnaed nifer o addasiadau yn Wheatley Road i hwyluso mynediad i bob tenant. Mae'r rhain yn cynnwys:

• Mynedfa wastad/ramp i'r cynllun
• Ardaloedd cymunedol sy'n hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn
• Gardd hygyrch
• Canllawiau

Y cyfleusterau a'r amwynderau sydd ar gael

Mae gan bob fflat yn Wheatley Road ei chegin a'i hystafell ymolchi ei hun. Ymhlith y cyfleusterau eraill mae:

• Lolfa gymunedol
• Cegin gymunedol
• Golchdy cymunedol
• Llety i westeion
• Gardd
• Swyddfa staff

Beth sydd ar gael yn lleol?

Ymhlith yr amwynderau sydd ar gael o fewn tua hanner milltir i'r cynllun mae:
• Siopau lleol (gan gynnwys Lidl a Tesco)
• Safle bws (ar ben y ffordd)
• Meddygfa
• Fferyllfa
• Addoldai
• Llyfrgell
• Swyddfa'r Post
• Triniwr Gwallt
• Banc/cymdeithas adeiladu
• Clinig llygaid
• Canolfan ddydd
• Ciropodydd
• Canolfan iechyd
• Canolfan hamdden
• Gorsaf yr heddlu

Gweithgareddau Cymdeithasol

Trefnir gweithgareddau cymdeithasol i denantiaid gymryd rhan ynddynt os ydynt yn dymuno. Mae rhai o'r gweithgareddau ar gael i'r gymuned leol hefyd.

• Boreau coffi
• Dosbarthiadau ymarfer corff
• Clwb brecwast unwaith yr wythnos
• Teithiau dydd
• Teithiau dydd gyda chynlluniau eraill
• Teithiau siopa

Rhent

Yn dibynnu ar eich incwm mae'n bosibl y gallwch hawlio Budd-dal Tai i helpu i dalu'r rhent a rhai rhannau o'r tŷl gwasanaeth. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r Tîm Ymholiadau Tai ar 029 2053 7111.

Manylion Cyswllt

Os oes diddordeb gennych mewn bod yn denant yn Wheatley Road bydd angen i chi lenwi Ffurflen Gais Tai Caerdydd. Cysylltwch â'r Tîm Ymholiadau Tai ar 029 2053 7111 i ofyn am ffurflen, ac i ofyn am help i lenwi'r ffurflen os oes angen.

Wheatley Road