Mae'r cynllun yn darparu ar gyfer anghenion tenantiaid 60 oed a hŷn.
Dylai tenantiaid allu byw yn annibynnol yn eu fflatiau eu hunain, er y gallant drefnu eu help ychwanegol eu hunain (er enghraifft glanhau neu ofal personol).
Mae Worcester Court yn ardal Grangetown, Caerdydd. Mae gan y cynllun 33 fflat hunan gynwysedig gan gynnwys 5 fflat un ystafell, 27 fflat un ystafell wely ac un fflat dwy ystafell wely.
Mae gan y safle ardd ddymunol gydag eisteddfan a heulfan. Mae croeso i ffrindiau a theulu aros dros nos yn yr ystafell i westeion â gwely dwbl.
Mae Rheolwr y Cynllun ar gael yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener i helpu gydag unrhyw broblemau, er enghraifft os oes angen unrhyw waith atgyweirio, ac i gynnig cymorth a chyngor mewn argyfwng. Mae gan bob fflat larwm hefyd sydd wedi'i gysylltu â Gwasanaeth Larwm Cymunedol Caerdydd sy'n cynnig cymorth a sicrwydd 24 awr y dydd.
Mae'r cynllun yn darparu ar gyfer anghenion tenantiaid 60 oed a hŷn.
Dylai tenantiaid allu byw yn annibynnol yn eu fflatiau eu hunain, er y gallant drefnu eu help ychwanegol eu hunain (er enghraifft glanhau neu ofal personol).
Gwnaed nifer o addasiadau yn Worcester Court i hwyluso mynediad i bob tenant, gan gynnwys:
• Mynedfa wastad/ramp i'r cynllun
• Mynedfeydd gwastad/rampiau y tu mewn i'r cynllun
• Lifft i'r lloriau uchaf
• Ardaloedd cymunedol sy'n hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn
• Gardd hygyrch
• Canllawiau
Mae gan bob fflat yn Worcester Court ei chegin a'i hystafell wely ei hun. Ymhlith y cyfleusterau eraill mae:
• Lolfa gymunedol
• Cegin gymunedol
• Golchdy cymunedol
• Llety i westeion
• Gardd
• Swyddfa staff
Ymhlith yr amwynderau sydd ar gael o fewn tua hanner milltir i'r cynllun mae:
• Siop leol
• Trafnidiaeth gyhoeddus
• Meddygfa
• Deintyddfa
• Addoldai
• Llyfrgell
• Swyddfa'r post
• Triniwr gwallt
Trefnir gweithgareddau cymdeithasol i denantiaid gymryd rhan ynddynt yn Worcester Court os ydynt yn dymuno. Mae rhai o'r gweithgareddau ar gael i'r gymuned leol hefyd.
• Teithiau bingo
• Prynhawniau gwau
• Prynhawniau te
• Partïon dillad
Yn dibynnu ar eich incwm mae'n bosibl y gallwch hawlio Budd-dal Tai i helpu i dalu'r rhent a rhai rhannau o'r tâl gwasanaeth. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r Tîm Ymholiadau Tai ar 029 2053 7111.
Mae Rheolwr Cynllun ar gael yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener i ymdrin ag unrhyw broblemau neu ymholiadau.
Mae gan bob fflat yn Worcester Court larwm sydd wedi'i gysylltu â Gwasanaeth Larwm Cymunedol Caerdydd. Gellir defnyddio'r larwm i alw am help unrhyw bryd (ddydd a nos). Bydd warden symudol yn ymweld os y bydd angen.
Os oes diddordeb gennych mewn bod yn denant yn Worcester Court bydd angen i chi lenwi Ffurflen Gais Tai Caerdydd. Cysylltwch â'r Tîm Ymholiadau Tai ar 029 2053 7111 i ofyn am ffurflen, ac i ofyn am help i lenwi'r ffurflen os oes angen.