Llety Pobl Hŷn - Brentwood Court, Llanisien
Mae Brentwood Court yn ardal Llanisien, Caerdydd. Mae gan y cynllun 35 fflat hunan gynwysedig gan gynnwys 5 fflat un ystafell, 29 fflat un ystafell wely ac un fflat dwy ystafell wely.
Mae'r ardaloedd cymunedol yn Brentwood Court yn olau ac yn gyfforddus, gyda dwy lolfa a llyfrgell helaeth. Y tu allan ceir gerddi dymunol gyda phatio ac eisteddfan. Mae croeso i breswylwyr wahodd ffrindiau neu berthnasau i aros yn yr ystafell en suite i westeion sydd â gwely dwbl.
Mae Rheolwr y Cynllun ar gael yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener i roi cyngor ar faterion o ddydd i ddydd ac i helpu mewn argyfwng. Mae gan bob fflat larwm hefyd sydd wedi'i gysylltu â Gwasanaeth Larwm Cymunedol Caerdydd sy’n cynnig cymorth a sicrwydd 24 awr y dydd.
Meini Prawf y Cynllun
Mae'r cynllun yn darparu ar gyfer anghenion tenantiaid 60 oed a hŷn.
Dylai tenantiaid allu byw yn annibynnol yn eu fflatiau eu hunain, er y gallant drefnu eu help ychwanegol eu hunain (er enghraifft glanhau neu ofal personol) os oes angen.
Hygyrchedd y Cynllun
Er mwyn hwyluso mynediad i bob tenant, mae gan Brentwood Court y canlynol:
• Mynedfa wastad/ramp
• Drysau mynediad awtomatig
• Lifft i'r lloriau uchaf
• Ardaloedd cymunol sy'n hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn
• Canllawiau
Y cyfleusterau a'r amwynderau sydd ar gael
Mae gan bob fflat ei chegin a'i hystafell ymolchi ei hun. Ymhlith y cyfleusterau eraill sydd ar gael yn Brentwood Court:
• Lolfa gymunol
• Cegin gymunol
• Golchdy cymunol
• Llety i westeion
• Gardd
• Swyddfa staff
Amwynderau
Ymhlith yr amwynderau sydd ar gael o fewn tua hanner milltir i'r cynllun:
• Siopau lleol
• Safle Bws (yn union y tu allan)
• Meddygfa
• Deintyddfa
• Fferyllfa
• Canolfan Iechyd (drws nesaf i'r cynllun)
• Addoldai
• Llyfrgell (ar gael o fewn y cynllun)
• Swyddfa'r post
• Siop trin gwallt
• Banc/cymdeithas adeiladu
Gweithgareddau Cymdeithasol
Mae nifer o weithgareddau cymdeithasol ar gael i denantiaid gymryd rhan ynddynt os ydynt yn dymuno. Mae rhai o'r gweithgareddau ar gael i'r gymuned leol hefyd.
• Bingo
• Boreau Coffi
• Clwb Brecwast
• Tripiau Dydd
• Ymarfer Corff
• Cyfarfodydd Wythnosol
Rhent
Yn dibynnu ar eich incwm mae'n bosibl y gallwch hawlio Budd-dal Tai i helpu i dalu'r rhent a rhai rhannau o'r tâl gwasanaeth.
I gael rhagor o wybodaeth am rent a thaliadau gwasanaeth ffoniwch y Tîm Ymholiadau Tai ar 029 2053 7111.
Rheolwr y Cynllun
Mae Rheolwr Cynllun ar gael yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener i ymdrin ag unrhyw broblemau neu ymholiadau.
Beth os nad yw Rheolwr y Cynllun ar gael?
Mae gan bob fflat yn Brentwood Court larymau sy'n gysylltiedig â Gwasanaeth Larwm Cymunedol Caerdydd. Gellir defnyddio'r gwasanaeth hwn i alw am help mewn argyfwng (24 awr y dydd). Bydd Warden Symudol yn galw i weld y tenant os oes angen.
Sut i wneud cais
Os oes diddordeb gennych mewn bod yn denant yn Brentwood Court bydd angen i chi lenwi Ffurflen Gais Tai Caerdydd. Ffoniwch 029 2053 7111 i ofyn am ffurflen, ac i ofyn am help i lenwi'r ffurflen os oes angen.