Llety Pobl Hŷn - Broadlands House - Llaneirwg

Mae Broadlands House yn Llaneirwg yn cynnig 33 eiddo hunan gynwysedig sy'n cynnwys 29 fflat un ystafell wely, un fflat dwy ystafell wely, dau fyngalo un ystafell wely ac un byngalo dwy ystafell wely. Mae gan y cynllun awyrgylch cyfeillgar gyda digwyddiadau cymdeithasol yn cael eu trefnu'n rheolaidd, ac ystafell i westeion sy'n galluogi aelodau o'r teulu neu ffrindiau i aros dros nos. Mae gan y safle ardd ddymunol i'w mwynhau ac mae'r cynllun o fewn pellter cerdded i archfarchnad a siopau eraill.

Mae Rheolwr y Cynllun yn wyneb cyfeillgar sydd ar gael yn ystod oriau swyddfa ac mae'n cynnig cymorth a chyngor fel y bo angen. Mae gan bob fflat larwm sy'n gysylltiedig â Gwasanaeth Larwm Cymunedol Caerdydd sy'n cynnig cymorth a sicrwydd 24 awr y dydd.


 

Meini Prawf y Cynllun

Mae'r cynllun yn darparu ar gyfer anghenion tenantiaid 60 oed a hŷn.

Dylai tenantiaid allu byw yn annibynnol yn eu fflatiau eu hunain, er y gallant drefnu eu help ychwanegol eu hunain (er enghraifft glanhau neu ofal personol) os oes angen.

Broadlands House

Hygyrchedd y Cynllun

Er mwyn hwyluso mynediad i bob tenant, mae gan Broadlands House y canlynol:

• Mynedfa wastad/ramp i'r adeilad
• Mynedfa wastad/ramp o fewn yr adeilad
• Drysau mynediad awtomatig
• Lifft i'r lloriau uchaf
• Ardaloedd cymunol sy'n hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn
• Gardd hygyrch
• Canllawiau

Y cyfleusterau a'r amwynderau sydd ar gael

Mae gan bob fflat ei chegin a'i hystafell ymolchi ei hun. Ymhlith y cyfleusterau eraill yn Broadlands House mae:

• Lolfa gymunol
• Cegin gymunol
• Golchdy cymunol
• Llety i westeion
• Gardd
• Swyddfa staff

Amwynderau

Ymhlith yr amwynderau sydd ar gael o fewn tua hanner milltir i'r cynllun mae:
• Siop Tesco ar draws y ffordd
• Safle bws y tu allan i'r cynllun
• Meddygfa
• Deintyddfa
• Fferyllfa
• Addoldai
• Llyfrgell
• Swyddfa'r Post
• Siop trin gwallt
• Lawnt bowlio

Gweithgareddau Cymdeithasol

Mae nifer o weithgareddau cymdeithasol ar gael i denantiaid gymryd rhan ynddynt os ydynt yn dymuno. Mae rhai o'r gweithgareddau ar gael i'r gymuned leol hefyd.

• Bingo / nosweithiau cymdeithasol
• Chwarae cardiau
• Clwb cinio wedi'i ddilyn gan bingo
• Boreau coffi
• Teithiau i fwytai, glan y môr, y theatr ac ati
• Adloniant gyda'r nos yn y lolfa gymunol

Rhent

Yn dibynnu ar eich incwm mae'n bosibl y gallwch hawlio Budd-dal Tai i helpu i dalu'r rhent a rhai rhannau o'r tâl gwasanaeth.

I gael rhagor o wybodaeth am rent a thaliadau gwasanaeth ffoniwch y Tîm Ymholiadau Tai ar: 029 2053 7111.

Rheolwr y Cynllun

Mae Rheolwr Cynllun ar gael yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener i drin ag unrhyw broblemau neu ymholiadau.

Gyda phwy y dylid cysylltu os nad yw Rheolwr y Cynllun ar gael?

Mae gan bob fflat yn Broadlands House larymau sy'n gysylltiedig â Gwasanaeth Larwm Cymunedol Caerdydd. Gellir defnyddio'r larwm mewn unrhyw argyfwng (24 awr y dydd), a dydd Warden Symudol yn galw ar y tenant os bydd angen.

Os oes diddordeb gennych mewn bod yn denant yn Broadlands House bydd angen i chi lenwi Ffurflen Gais Tai Caerdydd. Ffoniwch 029 2053 7111 i ofyn am ffurflen, ac i ofyn am help i lenwi'r ffurflen os oes angen.