Opsiynau Tai - Llety Myfyrwyr

Gyda nifer fawr o neuaddau preswyl, tai myfyrwyr a fflatiau yn cael eu darparu gan y prifysgolion, neuaddau preswyl preifat a chyflenwad da o lety rhent preifat mae digon o ddewis gan fyfyrwyr.

Ceir cyngor ac arweiniad ar yr opsiynau gan swyddfeydd llety'r prifysgolion. Yn draddodiadol, mae myfyrwyr y flwyddyn gyntaf yn dewis byw mewn neuaddau preswyl, a drefnir drwy'r Gwasanaethau Llety yn y brifysgol, gyda'r opsiwn i symud i'r sector rhent preifat ar ôl cwblhau'r flwyddyn gyntaf.


 

Os nad yw neuaddau'r brifysgol ar gael, mae'r Gwasanaethau Llety wrth law i roi arweiniad ar dai gosod uniongyrchol yn neuaddau preifat a llety rhent preifat. Gallwch gael gwybodaeth ar wefan Undeb Myfyrwr Caerdydd hefyd.

Dylai myfyrwyr ddefnyddio landlordiaid achrededig ac asiantau gosod wrth chwilio am lety yn y sector rhent preifat. Mae'r rhestrau tai a ddarperir gan y prifysgolion yn rhestru'r landlordiaid achrededig, ac erbyn 2011 dim ond landlordiaid a achredwyd drwy Achredu Landlordiaid Cymru gaiff eu cynnwys ar y rhestrau hyn. Mae'r wefan www.lletycaerdydd.co.uk yn rhoi arweiniad ar yr opsiynau sydd ar gael, asiantau gosod achrededig, gwasanaethau llety a'r gwasanaethau cynghori sydd ar gael gan y prifysgolion a'r undebau, yn ogystal â gwybodaeth ddefnyddiol a chyngor ymarferol ar fywyd myfyrwyr.