Grantiau ac ati.

Er y gallwch leihau eich biliau ynni drwy wneud newidiadau bach i'r ffordd yr ydych yn byw, gall newidiadau mwy megis gosod boeler gwres canolog newydd neu baneli 'solar' fod yn ddrud.

Efallai bydd cynigion ar gael i helpu i leihau'r costau hyn, neu gallech fod yn gymwys am grant. Hefyd, cofiwch, os ydych yn cynhyrchu eich trydan eich hun drwy osod paneli 'solar' gall y cwmni trydan eich talu chi am unrhyw ynni ychwanegol nad ydych yn ei ddefnyddio!

 


 

Nyth - Gwneud Cymru'n Glyd

Mae Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru, sy'n cynnwys cynlluniau Nyth, yn darparu cymorth ariannol i wneud gwelliannau effeithlonrwydd ynni gartrefi incwm isel a'r rheini sy'n byw mewn cymunedau difreintiedig ledled Cymru.


Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyngor diduedd am ddim, ac os ydych yn gymwys, becyn o welliannau ynni-effeithlon i'r cartref am ddim, megis boeler newydd, gwres canolog neu inswleiddio. Gall hyn leihau eich biliau ynni a gall fod o fudd i'ch iechyd a'ch llesiant.


Os ydych yn ei chael hi'n anodd cadw eich cartref yn gynnes neu ymdopi â'ch biliau ynni, ffoniwch ni ar Radffon 0808 808 2244 neu ymwelwch y wefan www.nyth.llyw.cymru/cy/.

Tariffau Cyflenwi Trydan

Os ydych yn cynhyrchu eich trydan eich hun, er enghraifft drwy osod paneli solar neu dyrbin gwynt, gallech elwa o filiau ynni llai yn ogystal â thaliad gan eich cwmni trydan am bob uned o ynni a gynhyrchir ac unrhyw beth sy'n weddill a gyflenwir i'r grid cenedlaethol. Cofiwch fod costau gosod ynghlwm a dylech gael cyngor ar y dewisiadau a allai fod yn addas i chi.

Nest Scheme

Home Heat Helpline