Gwelliannau yn y Cartref

Mae ynni gwastraff yn arian gwastraff!

Mae camau syml y gallwch eu cymryd i helpu i leihau eich biliau, ond efallai yr hoffech hefyd feddwl am wneud newidiadau mwy i'ch cartref i fod yn fwy ynni effeithlon ac i arbed arian yn y tymor hwy.

Gall gwelliannau i'r cartref, megis insiwleiddio'r llofft a waliau ceudod, uwchraddio'r boeler gwres canolog a gosod paneli solar neu ffenestri gwydr dwbl, helpu i arbed ynni a lleihau biliau. Defnyddiwch y ddolen briodol isod i gael gwybodaeth am y dewisiadau sydd ar gael i chi - efallai y gallech hyd yn oed gael help gyda'r costau.

Cofiwch : Os ydych yn rhentu eich cartref rhaid i chi bob amser siarad â'ch landlord cyn gwneud unrhyw newidiadau i'r eiddo.