Help gyda Thalu Eich Biliau

Os ydych yn cael trafferth talu eich biliau nwy, trydan a dŵr efallai y byddwch yn gallu cael help. Cysylltwch â'ch cyflenwr yn uniongyrchol i ofyn am eu tariff cymdeithasol neu cliciwch ar y logos isod i gael rhagor o wybodaeth.

Gallwch hefyd feddwl am leihau eich biliau drwy newid sut rydych yn byw, neu wneud gwelliannau i'r cartref a fydd yn eich helpu i ddefnyddio llai o ynni. Gallech hefyd gael grant i helpu gyda rhai o'r rhain.

Os hoffech siarad ag ymgynghorydd annibynnol ynghylch eich dewisiadau ffoniwch y Llinell Gymorth Cartrefi Cynnes ar 0800 33 66 99.


 

Nwy a Thrydan - oes dewis rhatach i chi?

Mae gan y mwyafrif o gwmnïau gynlluniau i helpu pobl sydd:

  • ar incwm isel
  • yn derbyn rhai budd-daliadau lles neu
  • â biliau ynni uchel o gymharu â'u hincwm

I gael gwybod a all eich cyflenwr helpu cliciwch ar eu logo ar y chwith -->

Biliau dŵr

Os yw eich bil dŵr yn uchel, naill ai gan fod gennych deulu mawr neu gan fod gan aelod o'ch cartref gyflwr meddygol sy'n arwain at ddefnydd uchel o ddŵr, efallai y gallech gael help drwy Gynllun Cymorth Dŵr Cymru. I fod yn gymwys rhaid i chi fod yn derbyn rhai budd-daliadau lles.

Taliadau Tanwydd y Gaeaf/Tywydd Oer

Os ydych wedi cyrraedd yr oed cymhwyso gallech gael Taliad Tanwydd y Gaeaf i'ch helpu i gadw'n gynnes yn y gaeaf. Yn ystod gaeaf 2011/12 bydd y taliadau rhwng £100 a £300 yn dibynnu ar eich sefyllfa. Os ydych wedi cael y taliad yn y blynyddoedd blaenorol dylech ei gael yn awtomatig eto eleni, ond os oes gennych unrhyw ymholiadau ffoniwch Linell Gymorth Taliadau Tanwydd y Gaeaf ar 0845 915 1515.

Os ydych yn derbyn Credyd Pensiwn, Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm, gallech hefyd gael Taliad Tywydd Oer am bob cyfnod o saith diwrnod o dywydd oer iawn rhwng 1 Tachwedd a 31 Mawrth. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.