Help i dalu am Welliannau

Efallai y gallech gael help i wneud gwelliannau i'ch cartref. Bydd y math o help yn dibynnu ar nifer o bethau - er enghraifft lle rydych yn byw, eich incwm, p'un a ydych yn anabl neu 'dros oed penodol' a ph'un a ydych yn rhentu neu'n berchen ar eich cartref eich hun.

Efallai y gallech gael help i wneud gwelliannau i'ch cartref. Bydd y math o help yn dibynnu ar nifer o bethau - er enghraifft lle rydych yn byw, eich incwm, p'un a ydych yn anabl neu 'dros oed penodol' a ph'un a ydych yn rhentu neu'n berchen ar eich cartref eich hun.

Os ydych yn rhentu eich cartref rhaid i chi siarad â'ch landlord cyn gwneud unrhyw welliannau i'r cartref.


 

Help os ydych yn berson hŷn neu anabl

Mae nifer o opsiynau ar gael i helpu pobl hŷn neu anabl i gynnal neu wella eu cartrefi. Ymhlith y rhain mae:

  • grant bach gan y Cyngor i dalu am welliannau cymwys i'r cartref sy'n costio hyd at £5000. Rhaid i ymgeiswyr fod yn 65+ oed, yn derbyn budd-dal cymwys ac yn byw mewn eiddo ym mand A-D y Dreth Gyngor. I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch: 029 2053 7269
  • a Grant Cyfleusterau i'r Anabl i helpu i dalu am addasiadau sy'n galluogi'r person anabl i fyw'n fwy annibynnol.
  • Help ariannol gyda biliau ynni ac effeithlonrwydd ynni yn y cartref.

Os oes angen i chi wneud atgyweiriadau neu addasiadau llai i'ch cartref efallai y gall Cynllun Gofal ac Atgyweirio Caerdydd helpu.

Mae gan y Cyngor a'r Cymdeithasau Tai atodlen o waith cynnal a chadw ar gyfer eu heiddo. Mae hyn yn cynnwys gwaith i sicrhau bod pob eiddo yn diwallu Safon Ansawdd Tai Cymru erbyn diwedd 2012. Mae gwaith yn cynnwys ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd a drysau 'safe-by-design'. Gallwch gysylltu â'ch landlord i gael gwybod a oes unrhyw waith wedi'i gynllunio ar gyfer eich eiddo chi.

Os hoffech wneud gwelliannau i'r cartref eich hun dylech ofyn i'ch landlord cyn gwneud unrhyw beth.

Help arall

Mae gan y Cyngor nifer o gynlluniau sy'n helpu i wella cymdogaethau a'u gwneud yn llefydd gwell i fyw. Mae peth o'r gwaith hwn yn cynnwys gwaith i wella'r tu allan i gartrefi unigol, er enghraifft drwy osod ffenestri newydd, atgyweirio toeau a rendro waliau.

Os ydych yn byw mewn ardal adnewyddu gallwch gysylltu â'r Cyngor i gael gwybod sut y gallai hyn eich helpu. Gall tenantiaid y Cyngor hefyd gael gwybod a oes unrhyw gynlluniau ar gyfer adfywio ystadau neu atgyweirio tai y gallant elwa ohonynt.

Age Concern

Houseproud

Care & Repair