Safonau Tai

P'un a ydych yn berchennog cartref neu'n denant, chi sydd fel arfer yn gyfrifol am gynnal a chadw eich cartref o ddydd i ddydd i'w gadw mewn cyflwr da.

Fodd bynnag, ar gyfer llety a rentir, mae safonau penodol y mae'n rhaid i'ch landlord sicrhau bod yr eiddo'n eu diwallu.

Mae manylion am y safonau y gallwch eu disgwyl (a dolenni i wefannau eraill sy'n cynnig rhagor o wybodaeth) yn yr adran hon.


 

Safonau mewn Eiddo sy'n berchen i'r Cyngor a Chymdeithasau Tai

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod safon ofynnol y mae'n rhaid i bob eiddo sy'n berchen i'r Cyngor a Chymdeithasau Tai ei diwallu erbyn diwedd 2012. Gelwir y safon hon yn Safon Ansawdd Tai Cymru. Yn ôl y safon, dylai tenantiaid allu byw mewn eiddo sydd:

  • mewn cyflwr da
  • yn ddiogel
  • wedi'i wresogi'n briodol, yn effeithlon o ran tanwydd ac wedi'i inswleiddio'n dda
  • yn cynnwys ceginau ac ystafelloedd ymolchi modern
  • wedi'i reoli'n dda
  • wedi'i leoli mewn amgylchedd deniadol a diogel
  • yn diwallu anghenion penodol y teulu lle y bo'n bosibl (e.e. anableddau penodol)

Yng Nghaerdydd mae'r Cyngor a Chymdeithasau Tai wedi gosod rhaglenni gwaith i sicrhau bod eu heiddo yn diwallu'r safonau hyn erbyn diwedd 2012. Os ydych yn denant i'r Cyngor neu Gymdeithas Tai ac eisiau gwybod a oes unrhyw waith pellach wedi'i gynllunio ar gyfer eich cartref cysylltwch â'ch landlord. Rhaid i chi ofyn iddo cyn trefnu i wneud unrhyw welliannau i'r cartref eich hun.

Safonau mewn Llety a Rentir yn Breifat

Dylid gosod llety a rentir yn breifat mewn cyflwr da - dylai landlordiaid sicrhau bod eu heiddo yn cael eu cynnal a chadw'n dda ac yn diwallu'r safonau a osodir gan y gyfraith.

Mae pob eiddo a rentir yn breifat yn rhan o System Sgorio Iechyd a Diogelwch Tai ac mae gan y Cyngor y pŵer i gymryd camau os tybir bod problemau iechyd a diogelwch yn yr eiddo yn annerbyniol a bod angen eu hunioni. Yn ogystal â hyn, mae safonau eraill y mae'n rhaid i fathau eraill o eiddo eu diwallu. Mae'n rhaid i Dai Amlfeddiannaeth sydd â 3 llawr neu fwy ac sydd â 5 neu fwy o bobl yn byw ynddynt gael eu trwyddedu gyda'r Cyngor a rhaid iddynt ddiwallu'r safonau a osodir o fewn y drwydded.

Os nad yw eich landlord yn fodlon delio â chyflwr gwael eich eiddo, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau mewn perthynas â'r safonau tai mewn llety a rentir yn breifat, cysylltwch ag Adran Tai Sector Preifat Cyngor Caerdydd ar: 029 2087 1762 neu yn privatesectorhousing@caerdydd.gov.uk am help a chyngor.

Gwelliannau i'r gymdogaeth

Mae gan y Cyngor nifer o gynlluniau i wella cymdogaethau a'u gwneud yn llefydd gwell i fyw. Maen nhw'n canolbwyntio'n bennaf ar welliannau i ardaloedd a chyfleusterau cyhoeddus a gallant gynnwys newid i flaen siopau, uwchraddio cyfleusterau parcio, palmentydd ac ardaloedd chwarae a gwella ymddangosiad cyffredinol yr ardal. Mae cynlluniau yn cynnwys y Rhaglen Gwella Cymdogaethau, Cynlluniau Adnewyddu Cymdogaethau ac Adfywio Canolfannau Siopa. Nod cynlluniau adfywio ystadau yw gwella ystadau tai Cyngor drwy gynnwys preswylwyr. Gallai'r gwaith gynnwys ffensio gerddi blaen, cael gwared ar gylis, gwella parcio a helpu i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal.

Mae Cynlluniau Atgyweirio Grŵp (fel arfer mewn Ardaloedd Adnewyddu penodol) yn uwchraddio strydoedd unigol ac yn cynnwys atgyweiriadau hanfodol i eiddo unigol. Mae ffenestri a drysau newydd, atgyweiriadau to, gwaith rendro a gwteri a pheipiau dŵr newydd yn esiamplau o waith a allai gael ei gynnwys.

Cardiff Council private renting standards

Fire safety check

Damp and Mould