Atgyweiriadau i'ch Cartref

Yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol, a ph'un a ydych yn byw mewn eiddo a rentir neu'n berchen ar eich cartref eich hun, efallai y gallech gael help gyda rhai atgyweiriadau.

Os ydych yn rhentu eich cartref gofynnwch i'ch landlord yn y lle cyntaf - efallai mai ef sy'n gyfrifol am yr atgyweiriad.

Os oes angen gwaith neu addasiadau mwy arnoch gan eich bod yn berson hŷn neu anabl neu os ydych eisiau gwneud newidiadau i'ch cartref i'w wneud yn gynhesach a lleihau eich biliau, ewch i'r tudalennau grantiau neu effeithlonrwydd ynni ar y wefan hon.


 

Help os ydych yn Denant i'r Cyngor neu Gymdeithas Tai

Yn dibynnu ar y math o atgyweiriad sydd ei angen arnoch efallai mai eich landlord fydd yn gyfrifol am y gwaith, neu efallai bydd rhaid i chi wneud eich trefniadau eich hun. Yn gyffredinol mae'r Cyngor neu Gymdeithas Tai yn gofalu am strwythur eich cartref ac yn sicrhau bod gosodiadau ar gyfer dŵr, glanweithdra, nwy a thrydan yn ddiogel ac yn gweithio'n dda. Eich cyfrifoldeb chi fydd y mwyafrif o atgyweiriadau eraill.

Dylai tenantiaid y Cyngor gysylltu â Llinell Atgyweiriadau Cysylltu â Chaerdydd ar 029 2087 2088 i roi gwybod bod angen gwneud atgyweiriad. Dylai tenantiaid Cymdeithas Tai gysylltu â'u landlord yn uniongyrchol.

Help os ydych yn Berson Hŷn neu Anabl

Os ydych chi dros 60 oed neu'n anabl ac yn berchen ar eich cartref eich hun neu'n rhentu gan landlord preifat efallai y gall Gofal a Thrwsio eich helpu gyda'ch atgyweiriadau neu welliannau i'ch cartref. Maent yn gweithio'n agos gyda Chyngor Caerdydd ac yn cynnig nifer o gynlluniau gan gynnwys Gwasanaeth Crefftwr a Gwasanaeth Diogelwch yn y Cartref.

Fel arall, efallai y gallech gael grant gan George Hill-Snook Charity for the Aged i'ch helpu gydag atgyweiriadau i'r cartref. Ewch i wefan Age Concern (Caerdydd a Bro Morgannwg) i gael rhagor o wybodaeth a ffurflen gais.

Help i Denantiaid Preifat

Os ydych yn rhentu eich cartref gan landlord preifat sicrhewch eich bod yn darllen eich cytundeb tenantiaeth wrth i chi dderbyn y denantiaeth a'ch bod chi'n ymwybodol o'r mathau o atgyweiriadau yr ydych chi'n gyfrifol amdanynt, a'r hyn a wneir gan eich landlord.

Os nad yw eich landlord yn fodlon gwneud atgyweiriadau, neu os ydych yn credu bod eich cartref yn anniogel, ceisiwch gyngor bob tro.

Age Concern

Care & Repair

Firebrake safety check