Dewisiadau Tai i Bobl Hŷn

P'un a ydych yn berchen ar eich cartref eich hun, neu'n rhentu gan landlord, mae nifer o opsiynau tai y gallech fod eisiau eu hystyried wrth i chi fynd yn hŷn.

Os hoffech aros yn eich cartref presennol, gall cymorthychwanegol, addasiadau a mesurau diogelwch eich helpu i barhau i fyw'n annibynnol. Fel arall, efallai y byddwch chi'n teimlo ei bod hi'n amser symud i gartref llai, neu un lle mae rhywun wrth law i'ch helpu mewn argyfwng, yn fwy rheolaidd.

Mae amrywiaeth o daflenni ar gael yn rhoi manylion yr holl ddewisiadau sydd ar gael a sut i drefnu'r rhain. Gallwch hefyd lawrlwytho Canllaw Dewisiadau Tai AgeUK i'ch helpu i wneud penderfyniad o ran y ffordd orau ymlaen.


 

Ydych chi'n cael trafferth darllen y testun ar y dudalen hon?

Mae gwybodaeth am sut i gynyddu maint y print ar gael yma.

Hoffwn symud i rywle llai...

Mae symud i gartref llai yn opsiwn i berchnogion cartref a thenantiaid.

Fel perchennog cartref,gall symud i eiddo llai olygu bod gennych arian i'w fwynhau yn ystod eich ymddeoliad, a lleihau eich biliau a chostau cynnal a chadw. Gall gwerthwyr tai lleol a gwefannau eich helpu i ddod o hyd i gartref addas.

Gall tenantiaid y Cyngor a Chymdeithasau Tai wneud cais i gyfnewid â thenant arall, neu symud i eiddo llai. Dan eu Cynllun Tanfeddiannu, mae Cyngor Caerdydd yn cynnig cyngor a help ymarferol i'w denantiaid i symud i lety llai - gan drefnu'r broses o symud popeth a chynnig cymorth drwy, er enghraifft, roi gwybod i'ch darparwyr nwy, trydan a ffôn eich bod wedi symud. I gael rhagor o wybodaeth am y Cynllun hwn ffoniwch 029 2053 7366.

Os ydych yn rhentu'n breifat, ac eisiau parhau i wneud hynny, gallwch chwilio am eiddo llai drwy asiant gosod neu ar-lein.

Hoffwn fyw'n annibynnol ond mae angen cymorth arnaf...

Mae llawer o bobl sy'n byw'n annibynnol yn eu cartref eu hunain yn cael gofal gan aelod o'r teulu neu gyfaill mewn modd anffurfiol sy'n eu galluogi i ymdopi o ddydd i ddydd. Os yw'r un peth yn wir amdanoch chi, cofiwch fod gwasanaethau ar gael yng Nghaerdydd i gefnogi eich gofalwr. Mae Llawlyfr Gofalwyr Cyngor Caerdydd yn cynnig gwybodaeth am yr amrywiaeth o wasanaethau a help sydd ar gael (gan gynnwys gofal seibiant i roi seibiant byr i'ch gofalwr, a chymorth ariannol) a sut i gael gwybodaeth am y rhain.

Os nad oes gennych ofalwr, neu os oes angen mwy o gymorth na'r hyn y gall ei roi, efallai y gall y Cyngor drefnu gwasanaethau i chi. Gallai hyn gynnwys help gyda phethau fel codi o'r gwely a gwisgo yn y bore, help yn y cartref, a chael prydau wedi'u hanfon i'ch cartref. Cynigir asesiad i chi i ganfod pa fath o ofal a chymorth sydd ei angen arnoch a ph'un a all y Cyngor roi'r gofal a'r cymorth hwn i chi. Mae'r asesiad am ddim, ond codir ffi ar gyfer gwasanaethau os oes gennych incwm neu gynilion uwchben lefel benodol.

I roi tawelwch meddwl i chi, gallech gael Larwm Cymunedol i sicrhau y gallwch alw am help unrhyw bryd drwy bwyso botwm, neu gael gwybodaeth am drefniadau Teleofal sy'n cynnig hyd yn oed mwy o sicrwydd i chi.

Os oes gennych ddiddordeb mewn symud, mae Cyngor Caerdydd a Chymdeithasau Tai yn y ddinas yn cadw rhai o'u heiddo i bobl hŷn yn unig. Byngalos a fflatiau yw'r rhain yn bennaf, ac mae rhai ohonynt yn cynnig cymorth Rheolwr Cynllun i helpu pobl mewn argyfwng, a chyda materion o ddydd i ddydd os oes angen. Gelwir eiddo sydd â'r math hwn o gymorth yn 'llety gwarchod' - lle mae tenantiaid yn byw'n hollol annibynnol, ond gyda'r sicrwydd bod eu cymdogion o'r un oed â nhw fwy neu lai.

Os byddaf yn aros, pwy all helpu gydag atgyweiriadau yn fy nghartref?

Os ydych yn rhentu eich cartref, cysylltwch â'ch landlord yn y lle cyntaf i gael gwybod os mai chi sy'n gyfrifol am yr atgyweiriadau neu os gallan nhw helpu.

Mae Gofal a Thrwsio Caerdydd yn helpu pobl hŷn gydag atgyweiriadau, gwelliannau ac addasiadau, yn amrywio o ollyngiad dŵr bach i osod rheiliau neu newid to. Maen nhw hefyd yn cynnig:

  • cyngor ar effeithlonrwydd ynni i'ch helpu i gadw'n gynnes a chadw'ch biliau mor isel â phosibl
  • gwiriad budd-dal lles i sicrhau eich bod yn derbyn yr holl arian yr ydych yn gymwys iddo
  • gwiriad i leihau peryglon a'r risg o ddisgyn yn eich cartref
  • gwasanaeth cyfeirio at wasanaethau a gweithgareddau eraill a allai fod o gymorth neu o ddiddordeb i chi.

Cysylltwch â nhw ar 029 2047 3337 i gael rhagor o wybodaeth.

Rwy'n anabl ac mae angen addasiadau arnaf...

Os hoffech aros yn eich cartref presennol, ond eich bod chi'n cael trafferth ymdopi oherwydd eich anabledd (neu oherwydd bod aelod arall o'ch cartref yn anabl) mae help a chyngor ar gael. Ewch i'r tudalennau 'gwelliannau i'r cartref' ar y wefan hon i gael rhagor o wybodaeth am yr help ymarferol ac ariannol a allai fod ar gael i chi.

Mae angen lefel uwch o ofal arnaf yn barhaus

Os ydych yn teimlo na allwch ymdopi gyda gofal gartref, neu gyda'r lefel o gymorth a gynigir gan lety gwarchod, edrychwch ar y cynlluniau Extracare yng Nghaerdydd. Mae'r math hwn o lety yn cynnig gofal a chymorth 24 awr, tra'n eich galluogi i gadw eich annibyniaeth mewn fflat hunangynhaliol. Mae Cyfeirlyfr Gwasanaethau Gofal Caerdydd yn cynnwys manylion cynlluniau Extracare a'r holl opsiynau tai â chymorth eraill sydd ar gael yn lleol, a sut i fanteisio ar y rhain.

Efallai bod yr amser wedi dod i ystyried symud i gartref gofal. Nid yw hwn yn benderfyniad rhwydd i'w wneud ac efallai y bydd taflen 'Meddwl am Fynd i Gartref Gofal?'Llywodraeth Cymru o ddefnydd i chi. Mae'n bwysig eich bod chi'n dewis y cartref sy'n iawn i chi felly defnyddiwch Gyfeirlyfr Gwasanaethau Gofal Caerdydd a gwefan Cyngor Caerdydd am ganllaw ar bethau i'w hystyried cyn parhau, ac i gael manylion am gartrefi gofal yn y ddinas.

Rwyf eisiau symud allan o Gaerdydd...

Os ydych yn denant i'r Cyngor neu Gymdeithas Tai ac eisiau symud i ardal arall (efallai i fyw'n agosach at y teulu), cysylltwch â'r Cyngor yn yr ardal honno a gofynnwch a allwch ymuno â'u rhestr aros am dai. Er bod galw uchel am lety Cyngor a Chymdeithasau Tai yn y mwyafrif o ardaloedd, mae'r amser aros ar gyfer llety gwarchod fel arfer yn llai - gofynnwch am gyngor o ran y mathau o eiddo ac ardaloedd a gynigir gan amlaf, a siaradwch â'ch teulu os nad ydych yn gyfarwydd â'r ardal. www.homeswapper.co.uk i chwilio am eiddo addas mewn ardal newydd, am ddim.

Os ydych yn berchen ar eich cartref cysylltwch â'ch asiant lleol i gael eich cartref wedi'i brisio - mae wastad yn werth cael mwy nag un safbwynt. Bydd gwefannau lleol yn eich helpu i gael syniad o brisiau eiddo yn yr ardal yr ydych eisiau symud iddi a phenderfynu p'un a allwch fforddio symud ai peidio.

Gallwch hefyd ystyried rhentu'n breifat yn yr ardal newydd. Dyma'r ffordd gyflymaf o symud gan fod cyflenwad da o lety rhent preifat yn y mwyafrif o drefi a dinasoedd. Cofiwch -os ydych eisiau rhentu eich cartref presennol, mae angen i chi roi rhybudd i'ch landlord yn unol â'ch cytundeb tenantiaeth.

Age UK

Age Connects Cardiff & the Vale

Older People pages

CALL helpline

Carers Direct

Dementia Helpline

Shopmobility

Voluntary Transport Service

Care & Repair