Mae Cyllid a Thollau EM (CThEM) wedi creu cyfleuster hyfforddi Cyllid a Thollau EM ar-lein a fydd yn helpu i ddatblygu gwybodaeth landlordiaid mewn perthynas â materion megis treth incwm, cofnodion busnes a threuliau. Mae'r gwasanaeth yn rhad ac am ddim a gallai fod yn arbennig o ddefnyddiol i'r landlordiaid hynny sy'n newydd i osod eu heiddo i denantiaid. Rhennir yr hyfforddiant yn fodiwlau bach sy'n cynnwys y canlynol :
- pryd a sut mae gosod eiddo yn cychwyn a beth i'w wneud
- y gwahanol fathau o incwm eiddo - dodrefn, heb ddodrefn, Gosodiadau Gwyliau, Rhentu Ystafell, y Cynllun Landlord Di-breswyl - a sut maen nhw'n cael eu trethu
- trin incwm a gwariant yn gywir (refeniw a chyfalaf)
- syniadau ar gadw cofnodion
- gwaredu eiddo, Enillion Cyfalaf a Threth Etifeddiant
- dyddiadau ffeilio ffurflenni a thalu treth
- Rhwymedigaethau Talu Wrth i chi Ennill a TAW
Mae Pecyn Cymorth Rhentu Eiddo Cyllid a Thollau EM Pecyn Cymorth Rhentu Eiddo Cyllid a Thollau EM yn rhoi arweiniad ar sut i osgoi'r gwallau a wneir amlaf y mae Cyllid a Thollau EM yn eu gweld mewn ffurflenni rhentu eiddo. Fe'i cynlluniwyd yn bennaf i ddiwallu anghenion asiantau ond gallai hefyd fod o ddiddordeb i landlordiaid.
Mae Cyllid a Thollau EM hefyd yn darparu gweminarau ar incwm eiddo byw neu wedi'u recordio ymlaen llaw sy'n cwmpasu hanfodion incwm o eiddo gan gynnwys cofrestru, cadw cofnodion ac ati. Mae'r gweminarau hefyd yn ymdrin â chynlluniau fel Rhentu Ystafell a Gosodiadau Gwyliau wedi'u Dodrefnu.
Mae yna hefyd fideo You Tube Cyllid a Thollau EM yn egluro pwysigrwydd cael trefn ar eich materion treth.