Opsiynau Tai - Llety'r Cyngor a Chymdeithasau Tai

Mae gan Gyngor Caerdydd a'r Cymdeithasau Tai yn y ddinas Restr Aros Gyffredin ar gyfer eu heiddo. Gall unrhyw un 16 oed a hŷn wneud cais, ond dylech ystyried y canlynol:

  • Lle rydych am fyw - a oes eiddo'r Cyngor neu eiddo Cymdeithasau Tai yn yr ardal honno?
  • Am faint y bydd rhaid i chi aros?
  • A fyddai rhentu eiddo preifat yn fwy addas i chi?
  • Beth yw'r gwahaniaethau rhwng tenantiaethau'r Cyngor a thenantiaethau Cymdeithasau Tai?

Nodwyd gwybodaeth isod hefyd ar gyfer tenantiaid presennol y Cyngor a Chymdeithasau Tai sydd am symud, neu sydd â diddordeb mewn prynu eu cartref.


 

Wyddech chi?

Mae tua 8,000 o bobl ar y Rhestr Aros Gyffredin, a cheir dros 400 o geisiadau newydd bob mis. Dim ond tua 1,600 o eiddo'r Cyngor a Chymdeithasau Tai ddaw ar gael ar osod bob blwyddyn.

Rwyf wedi gwneud cais - am faint y bydd rhaid i mi aros?

Yn aml mae pobl yn synnu ar gyn lleied o eiddo sydd ar gael gan y Cyngor a Chymdeithasau Tai, a faint o bobl sydd ar y rhestr aros. Mae'r dudalen amcangyfrif amseroedd aros yn rhoi gwybodaeth i helpu pobl sydd wedi gwneud cais am dai benderfynu p'un a yw rhentu eiddo gan y Cyngor/Cymdeithasau Tai yn addas iddynt hwy ar hyn o bryd. Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion:

  • Lle mae eiddo ar gael gan y Cyngor a Chymdeithasau Tai
  • Nifer yr eiddo sydd ar osod yn ardaloedd amrywiol o'r ddinas
  • Amcangyfrif o'r amseroedd aros

Edrychwch ar y wybodaeth a heatmaps i'ch helpu i benderfynu beth i'w wneud.

Nid wyf wedi gwneud cais hyd yma - beth yw fy opsiynau?

 

Os hoffech wneud cais ffoniwch ein Tîm Rhestr Aros Tai ar 02920537111 (opsiwn 1). Bydd apwyntiad yn cael ei wneud i chi ddod i Gyfweliad Cais am Dŷ, lle byddwch yn cael cyngor ar dai yn seiliedig ar eich anghenion.

 

 

Mae’r mapiau hefyd yn rhoi cipolwg ar wybodaeth gan gynnwys argaeledd eiddo'r sector rhent preifat a allai fod yn fwy addas i chi yn dibynnu ar ble rydych chi eisiau byw. 

Os ydych chi'n gweithio, efallai y byddwch chi hefyd eisiau meddwl am brynu eiddo drwy gynllun ecwiti a rennir.  

Mewn perygl o ddod yn ddigartref

Os ydych chi'n wynebu colli'ch cartref mae angen i chi gael cyngor cyn gynted â phosib. Gall cael help yn gynnar atal eich problem tai rhag dod yn argyfwng. P'un a ydych chi'n berchennog cartref, tenant preifat, tenant cyngor neu gymdeithas dai gallwch gysylltu â'n gwasanaeth Dewisiadau Tai isod neu ein ffonio ar 029 2057 0750. Gallwch hefyd alw i mewn i un o'n Hybiau Cyngor neu asiantaeth gynghori arall yng Nghaerdydd. Dysgwch fwy ar wefan Cyngor Caerdydd.

A oes angen eiddo a addaswyd arnoch?

Caiff Cynllun Tai Hygyrch Caerdydd ei redeg ar y cyd â Llywodraeth Cymru a'r prif Cymdeithasau Tai yng Nghaerdydd er mwyn diwallu anghenion tai ymgeiswyr anabl. Gallwch gofrestru ar y cynllun os ydych chi, neu rhywun ar eich aelwyd yn anabl ac angen symud i eiddo sydd wedi'i addasu'n briodol. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Chynllun Cartrefi Hygyrch Caerdydd drwy ffonio: 02920 537023 neu e-bostiwch at cah@cardiff.gov.uk

A ydych yn un o denantiaid presennol y Cyngor neu Gymdeithas Tai?

Gall tenantiaid presennol y Cyngor a Chymdeithasau Tai sydd am symud wneud cais i gyfnewid neu drosglwyddo.

Mae Homeswapper yn wefan genedlaethol sy'n helpu tenantiaid i ddod o hyd i eiddo addas ar gyfer cyfnewid yng Nghaerdydd neu rywle arall.

Fel arall, i wneud cais am drosglwyddiad i eiddo Cyngor neu gymdeithas tai arall yng Nghaerdydd e-bostiwch SLUAdmin@caerdydd.gov.uk.  

Asbestos mewn eiddo sy'n berchen i'r Cyngor

Mae pob eiddo sy'n berchen i'r Cyngor (neu a fydd yn berchen i'r Cyngor) yn cael ei brofi am asbestos. I weld pa fath o asbestos, os o gwbl, sydd wedi'i ganfod yn eich eiddo chi, ewch i'n gwiriwr asbestos, teipiwch ran o'ch enw stryd a dewiswch eich eiddo.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy ddilyn y dolenni ar dudalennau'r gwiriwr asbestos.