Hawl i Brynu

 

Dan Ddeddf Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018, daeth hawl tenantiaid cynghorau a chymdeithasau tai i brynu neu gaffael eu cartref i ben ar 26 Ionawr 2019.

Dulliau eraill o brynu cartref

Mae gan y Cyngor gynllun Perchentyaeth â Chymorth sy’n galluogi prynwyr tro cyntaf i brynu cartref ar y farchnad agored. Mae ar gael i bawb sy’n byw neu’n gweithio yng Nghaerdydd, nid dim ond i denantiaid y Cyngor neu gymdeithasau tai. Fel rhan o’r cynllun hwn, mae’r Cyngor yn cadw canran o’r eiddo, ond ni thelir rhent. Os hoffech ragor o wybodaeth ffoniwch gyngor Caerdydd ar 029 2053 7366 neu  lcho@caerdydd.gov.uk.

Mae mwy o wybodaeth ar gael o wefan Llywodraeth Cymru