Llety i Bobl Hŷn

Mae math o lety ar gael yng Nghaerdydd a ddyluniwyd yn benodol ar gyfer pobl hŷn (dros 60 oed fel arfer), ac a gaiff ei osod i'r grŵp oedran hwn yn unig. Mae'r eiddo yn cynnwys fflatiau hunan gynwysedig a byngalos pwrpasol sy'n haws i denantiaid eu rheoli, gydag addasiadau lle bod angen i alluogi mynediad rhwydd a hwyluso symudedd.

Mae'r math hwn o lety (a elwir yn aml yn llety gwarchod) yn cynnig y cyfle i bobl hŷn barhau i fyw'n annibynnol, ond gyda'r sicrwydd bod help ar gael pe bai problem.


 

Beth allaf ei ddisgwyl gan Lety Gwarchod?

NID yw llety pobl hŷn yn gartref gofal neu breswyl - mae'r tenantiaid yn byw'n annibynnol yn eu heiddo hunan gynwysedig eu hunain fel rhan o'r cynllun, a gallant benderfynu i ba raddau eu bod am gymryd rhan yn y digwyddiadau cymdeithasol a'r gweithgareddau eraill a drefnir ar y safle.

Un o fanteision cynlluniau tai gwarchod yw nifer o wasanaethau sy'n cynnig lefel uwch o ddiogelwch, cymorth a sicrwydd i denantiaid. Mae larymau Cymdeithasol wedi'u gosod ym mhob cynllun yng Nghaerdydd sy'n cynnig gwasanaeth ymateb brys 24 awr y dydd. Mae gan y rhan fwyaf o gynlluniau reolwr hefyd yn ystod oriau swyddfa sy'n gallu helpu â phroblemau sy'n codi o ddydd i ddydd, ac sy'n chwarae rôl bwysig o ran trefnu gwasanaethau ar y safle (megis ymweliadau gan bobl trin gwallt symudol) a gweithgareddau (megis boreau coffi, ymweliadau a dosbarthiadau).

Fel arfer mae'r llety yn cynnwys fflatiau â 1 neu 2 ystafell wely (ar y llawr daear neu'r llawr cyntaf) neu fyngalos. Er bod yr eiddo unigol yn hunan gynwysedig, mae gan y rhan fwyaf o gynlluniau gyfleusterau cymunol megis lolfa/cegin, ystafell golchi dillad, gardd a chyfleusterau storio/trydanu sgwteri symudedd.

Faint fydd y gost?

Cofiwch ei bod yn bosibl y byddwch yn gymwys i dderbyn Budd-dal Tai neu Gredyd Cynhwysol i helpu gyda’r rhent a’r ffi gwasanaeth. Os nad ydych yn siŵr pa fudd-dal y dylech ei hawlio, cysylltwch â’r llinell gyngor ar 029 2087 1071.