EFFEITHLONRWYDD YNNI

Mae biliau nwy, trydan a dŵr fel arfer yn rhan fawr o wariant y cartref. Gall un neu ddau newid bach leihau eich biliau a lleihau eich 'ôl troed carbon' ar yr un pryd. Felly byddwch yn 'wyrdd' ac arbedwch!

Yn yr adran hon ceir awgrymiadau o ran sut i leihau eich biliau drwy wneud newidiadau syml iawn yn eich cartref. Ceir gwybodaeth o ran gwelliannau yn y cartref a all arbed arian i chi yn yr hirdymor, a gallech gael grant i'ch helpu i dalu am rywfaint o'r gwaith.

Cofiwch: Os nad ydych yn berchen ar eich cartref rhaid i chi siarad â'ch landlord cyn gwneud unrhyw welliannau i'r cartref.